Revelation 2:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Meddylia, am hyn, o pa le y cwympeist, ac etiverha, a gwnar gweithredoedd cynta: ac onys gvvnei mi ddof ar vrys yth erbyn, ac y symydo dy ganwyllbren allan oy le, any well h ey.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cofia, gan hyny, o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a’r gweithredoedd cyntaf gwna; ac onite, dyfod attat yr wyf; a symmudaf dy ganhwyllbren allan o’i le, onid edifarhai.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Cofia felly o b’le y cwympaist, ac edifarha a gwna’r gweithredoedd cyntaf; ac onid e, dof atat a symudaf dy ganhwyllbren o’i le, onid edifarhei.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Cofia gan hynny o ba le y syrthiaist, ac edifarha, a gwna'r gweithredoedd cyntaf: ac onid e, yr wyf fi yn dyfod atat ti ar frys, ac mi a symudaf dy ganhwyllbren di allan o'i le, onid edifarhei di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Edrych mor bell rwyt ti wedi syrthio! Tro yn ôl ata i eto, a gwna beth roeddet ti'n ei wneud ar y cychwyn. Os ddoi di ddim yn ôl ata i, dof fi atat ti a chymryd dy ganhwyllbren di i ffwrdd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cofia, felly, o ble y syrthiaist, ac edifarha, a gwna eto dy weithredoedd cyntaf. Os na wnei, ac os nad edifarhei, fe ddof atat a symud dy ganhwyllbren o'i le.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cofia, gan hynny, o ba le y syrthiaist, ac edifarhâ, a gwna y gweithredoedd cyntaf; ac onide, yr ydwyf yn dyfod atat ti, ac a symudaf dy ganwyllyr allan o'i le, oni edifarhêi di.