Revelation 2:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi adwen dy weythredoedd, ath travael, ath tlodi (eithr yr wyd yn gyvoethoc) ac mi advven enllib melleigedic yr rein ydynt yn dywedyd y bod yn Iddewon ac nyd ydynt, ond y maent yn Synagog Satan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwn dy orthrymder a’th dlodi (eithr goludog wyt,) a’r cabledd oddiwrth y rhai sy’n dywedyd mai Iwddewon ydynt, ac nid ydynt, eithr sunagog Satan ydynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwn am dy flinfyd a’th dlodi, eithr cyfoethog ydwyt; ac am gabledd y rhai a’u geilw eu hunain yn Iddewon, a hwythau heb fod amgen na synagog Satan.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a adwaen dy weithredoedd di, a'th gystudd, a'th dlodi, (eithr cyfoethog wyt,) ac mi a adwaen gabledd y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt ond synagog Satan.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwybod dy fod ti'n dioddef, a dy fod yn dlawd (er, rwyt ti'n gyfoethog go iawn!) Dw i'n gwybod hefyd dy fod ti'n cael dy sarhau gan y rhai sy'n honni bod yn bobl Dduw ond sydd ddim go iawn. Synagog Satan ydyn nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwn am dy orthrymder a'th dlodi, ac eto yr wyt yn gyfoethog; gwn hefyd am gabledd y rhai sy'n eu galw eu hunain yn Iddewon a hwythau heb fod felly, ond yn hytrach yn synagog Satan.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mi a adwaen dy orthrymder a'th dlodi — eithr cyfoethog wyt — a'r cabledd oddi wrth y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iuddewon, ac nid ydynt, ond Synagog Satan.