Revelation 20:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r cythrel yr vn y twylloeð hwynt, y vwrwd y bwll o dan a’ brymstan lle poenir yr enifel, ar proffwyd ffalst dydd a nos yn dragowydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A Diafol, yr hwn oedd yn eu harwain ar gyfeiliorn, a fwriwyd i’r llyn o dân a brwmstan, lle y mae’ r bwystfil hefyd a’r gau-brophwyd; a phoenir hwynt ddydd a nos yn oes oesoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a bwriwyd diafol, eu twyllwr, i’r llyn o dân a brwmstan, lle hefyd, y mae’r bwystfil a’r gau-broffwyd, a phoenydir hwynt ddydd a nos yn oes oesoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A diafol, yr hwn oedd yn eu twyllo hwynt, a fwriwyd i'r llyn o dân a brwmstan, lle y mae'r bwystfil a'r gau broffwyd; a hwy a boenir ddydd a nos, yn oes oesoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma'r diafol oedd wedi eu twyllo nhw yn cael ei daflu i'r llyn tân sy'n llosgi brwmstan, ble roedd yr anghenfil a'r proffwyd ffug wedi cael eu taflu. Byddan nhw'n cael eu poenydio ddydd a nos am byth bythoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a bwriwyd y diafol, twyllwr y cenhedloedd, i'r llyn tn a brwmstan, lle mae'r bwystfil hefyd a'r gau broffwyd. Yno cnt eu poenydio ddydd a nos byth bythoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Diafol, yr hwn oedd yn eu harwain ar gyfeiliorn, a fwriwyd i'r Llyn o Dân a Brwmstan, lle y mae yr Anghenfil hefyd a'r Gau‐Brophwyd; a phoenir hwynt ddydd a nos yn oes oesoedd.