Revelation 20:12 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi weleis y meirw, mawr ion a’ bychein yn sefyll gair bron Dyw: a’r llyfre agorwyd, a’ llyfr arall agorwyd, yr hwn ydiw llyfr y bowyd, a’r meirw y varnwyd wrth y pethey oeddent yn yscrivenedic yn y llyfre, yn ol y gweithredoed hvvynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais y meirw, y mawrion a’r bychain, yn sefyll o flaen yr orsedd-faingc; a llyfrau a agorwyd; a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd; a barnwyd y meirw, o’r pethau oedd wedi eu hysgrifenu yn y llyfrau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwelais y meirw, fawr a mân, yn sefyll gerbron yr orsedd, ac agorwyd llyfrau. Yna agorwyd llyfr arall — llyfr y bywyd — a barnwyd y meirw wrth y pethau ysgrifenedig yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a welais y meirw, fychain a mawrion, yn sefyll gerbron Duw; a'r llyfrau a agorwyd: a llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw llyfr y bywyd: a barnwyd y meirw wrth y pethau oedd wedi eu hysgrifennu yn y llyfrau, yn ôl eu gweithredoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
A dyma fi'n gweld pawb oedd wedi marw, pobl fawr a phobl gyffredin, yn sefyll o flaen yr orsedd. Dyma'r llyfrau amdanyn nhw yn cael eu hagor. Yna agorwyd llyfr arall, sef Llyfr y Bywyd. Cafodd pob un ei farnu am beth roedd wedi ei wneud — roedd popeth amdanyn nhw wedi cael ei gofnodi yn y llyfrau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelais y meirw, yn fawr a bach, yn sefyll o flaen yr orsedd; ac agorwyd llyfrau. Yna agorwyd llyfr arall, sef llyfr y bywyd; a barnwyd y meirw ar sail yr hyn oedd yn ysgrifenedig yn y llyfrau, yn l eu gweithredoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais y meirw, y mawrion a'r bychain, yn sefyll gerbron yr Orsedd; ac agorwyd llyfrau, a Llyfr arall a agorwyd, yr hwn yw Llyfr y Bywyd, a barnwyd y meirw oddi wrth y pethau a ysgrifennwyd yn y llyfrau, yn ol eu gweithredoedd.