Revelation 20:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac y bwrioedd ef yr pwll heb waylod, ac y goarchaeoð ef ac y seloedd y drvvs arno, megis na alley siomi ’r bobl mwy ach, nes cyflewni ’r mil o vlynyddey: can ys yn ol hyny rreid yw y ollwng ef dros ychydic o amser.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a bwriodd ef i affwys, a chauodd a seliodd uwch ei ben, fel nad arweiniai ar gyfeiliorn y cenhedloedd mwyach hyd oni orphener y fil o flynyddoedd: ar ol hyny y mae rhaid ei ollwng yn rhydd am ychydig amser.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yna bwriodd ef i’r pwll, a chloi a selio arno fel na thwyllo’r cenhedloedd mwyach, hyd oni chyflawner y mil blynyddoedd; wedi hynny rhaid yw ei ryddhau am ychydig amser.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a'i bwriodd ef i'r pydew diwaelod, ac a gaeodd arno, ac a seliodd arno ef, fel na thwyllai efe'r cenhedloedd mwyach, nes cyflawni'r mil o flynyddoedd: ac ar ôl hynny rhaid yw ei ollwng ef yn rhydd dros ychydig amser.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r angel yn ei thaflu hi i lawr i'r pydew diwaelod, ai gloi a'i selio er mwyn rhwystro'r ddraig rhag twyllo'r cenhedloedd ddim mwy, nes bydd y mil o flynyddoedd drosodd. Ar ôl hynny mae'n rhaid iddi gael ei gollwng yn rhydd am gyfnod byr.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bwriodd hi i'r dyfnder, a chloi'r pwll a'i selio arni rhag iddi dwyllo'r cenhedloedd eto, nes i'r mil blynyddoedd ddod i ben; ar l hynny, rhaid ei gollwng yn rhydd am ychydig amser.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac a'i bwriodd ef i Annwn, ac a'i cauodd ac a seliodd uwch ei ben, fel nad arweiniai ar gyfeiliorn y Cenhedloedd mwyach hyd oni orphenner y mil blynyddoedd: ar ol hynny y mae yn rhaid ei ollwng yn rhydd am ychydig amser.