Revelation 20:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi weleis eisteddleoedd: ac hwy eisteddasant arnynt, a’ barn y rroed yddynt hwy, ac mi vvelais eneidiey y rrei y dorrwyd y peney am dystolaeth Iesu, ac am eir Dyw, a’r rrei nyd addolasant yr enifel, nae y ddelw, ac ny chymersont y nod ef ar y talceney, ney ar y dwylaw: ac hwy vyont vyw, ac y deirnasasant gyd a Christ mil o vlunyddey.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais orsedd-feingciau, ac eisteddent arnynt, a barn a roed iddynt; ac eneidiau y rhai y torrasid eu pennau o herwydd tystiolaeth Iesu, ac o herwydd gair Duw, y rhai nid addolasant y bwystfil nac ei ddelw, ac ni dderbyniasant eu nod ar eu talcen nac ar eu llaw: a buant fyw, a theyrnasasant ynghyda Christ fil o flynyddoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yna gwelais orseddau, ac yn eistedd arnynt y sawl y rhoddwyd iddynt hawl i farnu, sef eneidiau’r rhai a ddienyddiwyd am dystiolaeth Iesu ac am air Duw, a’r rhai nad addolasant y bwystfil na’i ddelw ef ac na chymerasant y nod ar eu talcen ac ar eu llaw. A buant fyw a theyrnasu gyda Christ fil o flynyddoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a welais orseddfeinciau, a hwy a eisteddasant arnynt, a barn a roed iddynt hwy: ac mi a welais eneidiau'r rhai a dorrwyd eu pennau am dystiolaeth Iesu, ac am air Duw, a'r rhai nid addolasent y bwystfil na'i ddelw ef, ac ni dderbyniasent ei nod ef ar eu talcennau, neu ar eu dwylo; a hwy a fuant fyw ac a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn gwelais orseddau, a'r rhai oedd wedi cael yr awdurdod i farnu yn eistedd arnyn nhw. A gwelais y rhai oedd wedi cael eu dienyddio am dystio i Iesu ac am gyhoeddi neges Duw yn ffyddlon. Doedd y rhain ddim wedi addoli'r anghenfil na'i ddelw, a doedd ei farc ddim wedi cael ei roi ar eu talcennau a'u dwylo. Dyma nhw'n dod yn fyw ac yn teyrnasu gyda'r Meseia am fil o flynyddoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwelais orseddau, ac yn eistedd arnynt y rhai y rhoddwyd iddynt awdurdod i farnu; gwelais hefyd eneidiau'r rhai a ddienyddiwyd ar gyfrif tystiolaeth Iesu ac ar gyfrif gair Duw. Nid oedd y rhain wedi addoli'r bwystfil, na'i ddelw ef, na chwaith wedi derbyn ei nod ar eu talcen nac ar eu llaw. Daethant yn fyw, a theyrnasu gyda Christ am fil o flynyddoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais orseddau, a hwy a eisteddasant arnynt, a barn a roed iddynt; ac eneidiau y rhai y toresid eu pennau am dystiolaeth Iesu, ac am Air Duw, y rhai ni addolasant yr Anghenfil na'i ddelw, ac ni dderbyniasant ei nôd ar eu talcen nac ar eu llaw; a hwy a fuant fyw, ac a deyrnasasant gyda Christ fil o flynyddoedd.