Revelation 20:6 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Bendigedic a sancteidd ywr vn ysydd a rran yddo yny cyfodiad igeth cyntaf: can ys nyd oes gan yr eil myrfolaeth veddiant ar y cyfryvv rei: ond hwy vyðant yn offeirieyd Dyw a’ Christ, ac y deirnasant gydac ef mil o vlynyddey.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Hwn yw’r adgyfodiad cyntaf. Gwynfydedig a sanctaidd yw ’r hwn sydd a chanddo ran yn yr adgyfodiad cyntaf! Ar y rhai hyn nid yw’r ail farwolaeth a chanddi awdurdod; eithr byddant offeiriaid i Dduw ac i Grist, a theyrnasant ynghydag Ef fil o flynyddoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyn ei fyd a sanctaidd yw’r hwn sydd iddo ran yn yr atgyfodiad cyntaf; ar y rhai hyn ni fedd yr ail farwolaeth awdurdod, eithr byddant yn offeiriaid Duw a Christ, a theyrnasant gydag ef am y mil blynyddoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwynfydedig a sanctaidd yw'r hwn sydd â rhan iddo yn yr atgyfodiad cyntaf: y rhai hyn nid oes i'r ail farwolaeth awdurdod arnynt, eithr hwy a fyddant offeiriaid i Dduw ac i Grist, ac a deyrnasant gydag ef fil o flynyddoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r rhai sydd wedi eu neilltuo ac sy'n cael bod yn rhan o'r atgyfodiad cyntaf yma wedi eu bendithio'n fawr! Does gan beth sy'n cael ei alw'n ‛ail farwolaeth‛ ddim gafael ynddyn nhw. Byddan nhw'n offeiriaid yn gwasanaethu Duw a'r Meseia, a byddan nhw'n teyrnasu gydag e am fil o flynyddoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyn ei fyd a sanctaidd y sawl sydd rhan yn yr atgyfodiad cyntaf; nid oes gan yr ail farwolaeth awdurdod arnynt, ond byddant yn offeiriaid Duw a Christ, a theyrnasant gydag ef am y mil blynyddoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwynfydedig a sanctaidd yw yr hwn sydd â rhan ganddo yn yr Adgyfodiad Cyntaf! Ar y rhai nid oes gan yr Ail Farwolaeth awdurdod; eithr byddant offeiriaid Duw a Christ, ac a deyrnasant gydag ef fil o flynyddoedd.