Revelation 20:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef eiff allan y dwyllaw’r bobl, yrrein ydynt ymhedwar ban y ddayar: nid amgen Gog a’ Magog, y gascly hwynt ynghyd y rryfel, rrif y rrein ’sydd mal tyuod y mor
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a daw allan i arwain ar gyfeiliorn y cenhedloedd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i’w casglu ynghyd i’r rhyfel, y rhai y mae eu rhif fel tywod y môr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac â allan i dwyllo’r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i’w cynnull ynghyd i’r rhyfel, a’u nifer fel tywod y môr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a â allan i dwyllo'r cenhedloedd sydd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i'w casglu hwy ynghyd i ryfel; rhif y rhai sydd fel tywod y môr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn mynd allan i bedwar ban byd i dwyllo'r cenhedloedd — Gog a Magog — ac yn eu casglu at ei gilydd i ymladd yn y frwydr. Nifer enfawr ohonyn nhw, fel y tywod ar lan y môr!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a daw allan i dwyllo'r cenhedloedd ym mhedwar ban y byd, sef lluoedd Gog a Magog, a'u casglu ynghyd i ryfel; byddant mor niferus thywod y mr.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a daw allan i arwain ar gyfeiliorn y cenhedloedd ym mhedair congl y ddaear, Gog a Magog, i'w casglu ynghyd i'r rhyfel: rhif y rhai sydd fel tywod y môr.