Revelation 20:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac hwy ddrychafasant y wastad y ddayar, yr rein ymgylchynesont pebyll y Saint, a’r dinas caredic: eithyr tan y ddiscynoedd oddiwrth Ddyw o’r nef, ac y llyncoedd hwynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac aethant i fynu ar led y ddaear, ac amgylchasant wersyll y saint a’r ddinas anwyl: a disgynodd tân o’r nef, a bwyttaodd hwynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac aethant i fyny dros led y ddaear, ac amgylchu gwersyll y saint a’r ddinas gu; a disgynnodd tân o’r nef a difaodd hwynt;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac a amgylchasant wersyll y saint, a'r ddinas annwyl: a thân a ddaeth oddi wrth Dduw i waered o'r nef, ac a'u hysodd hwynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma nhw'n martsio o un pen i'r ddaear i'r llall ac yn amgylchynu gwersyll pobl Dduw, sef y ddinas mae Duw yn ei charu. Ond daeth tân i lawr o'r nefoedd a'u dinistrio nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cyrchasant dros wyneb y ddaear ac amgylchynu gwersyll y saint a'r ddinas sy'n annwyl gan Dduw. Ond disgynnodd tn o'r nef a'u difa'n llwyr;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A hwy a aethant i fyny ar led y ddaear, ac amgylchasant wersyll y saint a'r Ddinas Anwyl; a disgynnodd tân o'r nef, ac a'u hysodd hwynt.