Revelation 21:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC mi weleis nef newydd, a dayar newydd: cans y nef cyntaf, ar ddayar cyntaf eithont heybio, ac ni doedd dim moor mwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A gwelais nef newydd a daear newydd; canys y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf a aethant ymaith; a’r môr nid yw mwyach.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A gwelais nef newydd a daear newydd, canys diflannodd y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf, a’r môr nid yw mwyach.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a welais nef newydd, a daear newydd: canys y nef gyntaf a'r ddaear gyntaf a aeth heibio; a'r môr nid oedd mwyach.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna gwelais nefoedd newydd a daear newydd. Roedd y ddaear a'r awyr gyntaf wedi diflannu. Doedd y môr ddim yn bodoli ddim mwy.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna gwelais nef newydd a daear newydd; oherwydd yr oedd y nef gyntaf a'r ddaear gyntaf wedi mynd heibio, ac nid oedd mr mwyach.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais nefoedd a daear newydd, canys y nef gyntaf a'r ddaear gyntaf a aethant heibio; a'r môr nid yw mwyach.