Revelation 21:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r dinas y osodwyd yn bedwar ochrog ae hud oedd cymeint ae lled, ac ef y vessyroedd y dinas ar corsen doyðec mil ystod: ac hud, ac lled ae hywchter sy yn ogymeint.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r ddinas sy’n gorwedd yn bedair-ongl; a’i hyd yn gymmaint a’i lled. A mesurodd efe y ddinas â’r gorsen, yn ddeuddeng mil o ’stadau: ei hyd a’i lled a’i huchder yn ogymmaint;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac y mae’r ddinas wedi ei gosod yn bedair-onglog, a’i hyd yn ogymaint â’i lled. A mesurodd y ddinas â’r gorsen yn ddeuddeng mil o ystadau; ei hyd a’i lled a’i huchder sydd gyfartal.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ddinas sydd wedi ei gosod yn bedeirongl, a'i hyd sydd gymaint â'i lled. Ac efe a fesurodd y ddinas â'r gorsen, yn ddeuddeng mil o ystadau. A'i hyd, a'i lled, a'i huchder, sydd yn ogymaint.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y ddinas yn berffaith sgwâr. Pan fesurodd yr angel y ddinas gyda'r ffon fesur cafodd ei bod hi'n 2,250 cilomedr o hyd, ac mai dyna hefyd oedd ei lled a'i huchder.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y ddinas wedi ei llunio'n betryal, ei hyd yn gyfartal 'i lled. Mesurodd ef y ddinas 'r ffon. Yr oedd yn ddwy fil, dau gant ac ugain o gilomedrau, a'i hyd a'i lled a'i huchder yn gyfartal.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae y Ddinas yn gorwedd yn bedair‐ongl, a'i hyd hi sydd gymaint a'r lled. Ac efe a fesurodd y Ddinas â'r gorsen yn ddeuddeng mil o ystadau: ei hyd a'i lled a'i huchder yn o gymaint.