Revelation 21:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef y vesyroedd y magwyr hi, pedwar cuvyt a seith igein, wrth vessyr dun, yr hwn yw, mesur yr Angel.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a mesurodd ei mur yn gant a phedwar cufudd a deugain, yn ol mesur dyn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A mesurodd ei mur hi yn gant pedwar deg a phedwar o gufyddau, wrth fesur dyn, hynny yw, eiddo angel.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a fesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, wrth fesur dyn, hynny yw, eiddo'r angel.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan fesurodd yr angel y wal, cafodd ei bod yn chwe deg pum metr o drwch — yn ôl y mesur cyffredin.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A mesurodd ei mur. Yr oedd yn gant pedwar deg a phedwar cufydd, yn l y mesur dynol yr oedd yr angel yn mesur wrtho.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A mesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, yn ol mesur dyn, hynny yw, eiddo yr angel.