Revelation 21:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ gryndwal magwyr y dinas oedd gwedy y thrwsio a’ phob rryw vaen gwerthfawr: y gryndwal cynta oedd maen Iaspar: yr eil o Saphir, y trydydd oedd o vaen Chalcedon: y pedwerydd Smaragdus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
sylfeini mur y ddinas wedi eu haddurno â phob maen gwerthfawr; y sylfaen cyntaf yn iaspis; yr ail, yn sapphir; y trydydd, yn chalcedon; y pedwerydd, yn smaragdus;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y mae sylfeini mur y ddinas yn addurnedig â phob rhyw faen gwerthfawr; y sylfaen cyntaf iaspis, yr ail saffir, y trydydd chalcedon, y pedwerydd smaragdin,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A seiliau mur y ddinas oedd wedi eu harddu â phob rhyw faen gwerthfawr. Y sail cyntaf oedd faen iasbis; yr ail, saffir; y trydydd, chalcedon; y pedwerydd, smaragdus;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd sylfeini waliau'r ddinas wedi eu haddurno gyda phob math o emau gwerthfawr. Maen iasbis oedd y sylfaen cyntaf, saffir oedd yr ail, y trydydd yn galcedon, a'r pedwerydd yn emrallt;
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd sylfeini mur y ddinas wedi eu haddurno phob math o emau gwerthfawr: iasbis oedd y garreg sylfaen gyntaf, saffir yr ail, chalcedon y drydedd, emrallt y bedwaredd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr oedd sylfeini mur y Ddinas wedi eu haddurno â phob maen gwerthfawr. Y sylfaen gyntaf oedd iaspis; yr ail saphir; y drydedd, chalcedon; y bedwaredd, smaragdus;