Revelation 21:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ myvi Ioan y weleis y dinas santaidd Caersalem newyð yn discin or nef oddiwrth Ddyw gwedy y thrwsio mal priodasverch ar vedr y gwr.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac y ddinas sanctaidd, yr Ierwshalem newydd, a welais yn disgyn o’r nef oddiwrth Dduw, wedi ei pharottoi fel priodas-ferch wedi ei haddurno i’w gŵr.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, a welais yn disgyn o’r nef oddi wrth Dduw, wedi ei pharatoi fel priodferch a addurnwyd i’w gŵr.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A myfi Ioan a welais y ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, yn dyfod oddi wrth Dduw i waered o'r nef, wedi ei pharatoi fel priodasferch wedi ei thrwsio i'w gŵr.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma fi'n gweld y ddinas sanctaidd, y Jerwsalem newydd, yn dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd. Roedd yn edrych fel merch ifanc wedi ei gwisgo'n hardd ar gyfer ei phriodas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A gwelais y ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, yn disgyn o'r nef oddi wrth Dduw, wedi ei pharatoi fel priodferch wedi ei thecu i'w gu373?r.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A gwelais y Ddinas Sanctaidd, Jerusalem newydd, yn dyfod i lawr allan o'r nef oddi wrth Dduw, wedi ei pharotoi fel Priodasferch wedi ei haddurno i'w gŵr.