Revelation 21:23 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac nyd rreid yr dinas, wrth yr hayl, nar lleyad y ’oleyo yndi: cans gogoniant Dyw y goleyoeð hi, a’r Oen yw goley ni hi.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r ddinas nid oes rhaid iddi wrth yr haul, nac wrth y lleuad, fel y disgleiriont iddi; canys gogoniant Duw a’i goleuodd, ac ei llusern yw Yr Oen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac nid rhaid i’r ddinas wrth yr haul na’r lleuad i dywynnu arni; canys goleuodd gogoniant Duw hi, a’i llusern yw’r Oen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na'r lleuad, i oleuo ynddi: canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, a'i goleuni hi ydyw'r Oen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Does dim angen golau haul na lleuad yn y ddinas chwaith, am fod ysblander Duw ei hun yn ei goleuo hi, a'r Oen fel lamp yn ei goleuo hi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid oes ar y ddinas angen na'r haul na'r lleuad i dywynnu arni, oherwydd gogoniant Duw sy'n ei goleuo, a'i lamp hi yw'r Oen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r Ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul na'r lleuad i lewyrchu arni: canys gogoniant Duw a'i goleuodd hi, a'i llusern hi yw yr Oen.