Revelation 21:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac nyd a y mewn yddi dim aflan, neu beth bynac y weythio casineb ney gelwddey, ond y rei y escrifenwyt mewn Llyfr bowyd yr Oen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nid â i mewn iddi er dim neb rhyw beth aflan, na’r hwn sy’n gwneuthur ffieidd-dra a chelwydd; neb oddieithr y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr bywyd Yr Oen.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac nid â i mewn iddi ddim cyffredin na neb a wna ffieidd-dra na chelwydd, neb ond y sawl a ysgrifennwyd yn llyfr bywyd yr Oen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu hysgrifennu yn llyfr bywyd yr Oen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond fydd dim byd aflan yn cael mynd i mewn iddi, nac unrhyw un sy'n gwneud pethau ffiaidd neu'n twyllo chwaith; dim ond y bobl hynny sydd â'u henwau wedi eu hysgrifennu yn Llyfr Bywyd yr Oen.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni chaiff dim halogedig, na neb sy'n ymddwyn yn ffiaidd neu'n gelwyddog, fynd i mewn iddi hi, neb ond y rhai sydd 'u henwau'n ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac nid ä i mewn iddi er dim ddim aflan, neu yr hwn sydd yn gwneuthur ffieidd‐dra a chelwydd; ond yn unig y rhai sydd yn ysgrifenedig yn Llyfr Bywyd yr Oen.