Revelation 21:3 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi glyweis lleis mawr allan o’r nef yn dwedyd Syna. Tabernacl Dyw gyda ’r dynion, ac ef yn dric gydac hwynt, ac hwy y vyddant bobyl yddo ef, a Dyw y hun, y bydd y Dyw hwy ynghyd ac ynthwy.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chlywais lais mawr o’r orsedd-faingc, yn dywedyd, Wele, dabernacl Duw gyda dynion, a thabernacla Efe gyda dynion; a hwy, Ei bobl a fyddant; a Duw Ei hun, gyda hwynt y bydd, eu Duw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A chlywais lais mawr o’r orsedd yn dywedyd: Wele babell Duw gyda dynion, a phabella gyda hwynt, a hwy fyddant ei bobl, a bydd Duw ei hun gyda hwynt,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac mi a glywais lef uchel allan o'r nef, yn dywedyd, Wele, y mae pabell Duw gyda dynion, ac efe a drig gyda hwynt, a hwy a fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyda hwynt, ac a fydd yn Dduw iddynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wedyn clywais lais o'r orsedd yn cyhoeddi'n glir, “Bellach mae pabell Duw yng nghanol y bobloedd. Bydd yn byw yn eu canol nhw, a byddan nhw'n bobl iddo. Bydd Duw ei hun gyda nhw, a fe fydd eu Duw nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Clywais lais uchel o'r orsedd yn dweud, "Wele, y mae preswylfa Duw gyda'r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A chlywais lef uchel o'r Orsedd yn dywedyd, Wele, Dabernacl Duw gyda dynion, Ac efe a dabernacla gyda hwynt, A hwy a fyddant ei bobloedd ef; A Duw ei hun a fydd gyda hwynt yn Dduw iddynt.