Revelation 21:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A Dyw y sych ymaith yr oll ðeigre oddiwrth y llygeid: ac ny bydd dim myrfolaeth mwy, na thristwch, na liefein, ac ny bydd dim poen mwy: cans y pethey cyntaf eithont heybiaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a sych Efe ymaith bob deigr o’u llygaid, ac marwolaeth ni fydd mwyach; na galar, na gwaedd, na phoen ni fydd mwyach: y pethau cyntaf a aethant ymaith.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
sych ymaith bob deigryn o’u llygaid hwynt, ac angau ni bydd mwyach, na galar na gwaedd na phoen ni bydd mwyach; canys diflannodd y pethau cyntaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac fe sych Duw ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt; a marwolaeth ni bydd mwyach, na thristwch, na llefain, na phoen ni bydd mwyach: oblegid y pethau cyntaf a aeth heibio.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd yn sychu pob deigryn o'u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae pethau fel yr oedden nhw wedi mynd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fe sych bob deigryn o'u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae'r pethau cyntaf wedi mynd heibio."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a sych ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt; A marwolaeth ni bydd mwyach; Ac ni bydd chwaith na galar, na gwaedd, na phoen mwyach: Y pethau cyntaf a aethant heibio.