Revelation 21:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar vn y eisteddoedd ar yr eisteddle, y ddwad, Syna, yrwyf yn gwneythur pob peth oc newyð: ac ef ddwad wrthyfi Escrifena: can ys y maent y geiriey yma yn ffyddlawn ac yn gywir.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd yr Hwn yn Ei eistedd ar yr orsedd-faingc, Wele, yn newydd yr wyf yn gwneuthur pob peth. A dywedodd, Ysgrifena, canys yr hyn eiriau, ffyddlawn a gwir ydynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd yr un a eisteddai ar yr orsedd: Wele, yn newydd y gwnaf bopeth. Yna dywed: Ysgrifenna, canys y geiriau hyn, ffyddlon a chywir ydynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna: canys y mae'r geiriau hyn yn gywir ac yn ffyddlon.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r Un oedd yn eistedd ar yr orsedd yn dweud, “Edrychwch! Dw i'n gwneud popeth yn newydd!” Meddai wedyn, “Ysgrifenna hynny i lawr. Mae beth dw i'n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orsedd, "Wele, yr wyf yn gwneud pob peth yn newydd." Dywedodd hefyd, "Ysgrifenna, oherwydd dyma eiriau ffyddlon a gwir."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedodd yr hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd. Ac efe a ddywed, Ysgrifenna, canys y mae y geiriau hyn yn ffyddlawn a gwirioneddol.