Revelation 21:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef y ddwad wrthyfi. E ðerfy mi wyf ac y dechreyad ar diwedd. Mi rrof yr vn y sydd sychedic, o ffynon dwr y bywyd yn rrydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthyf, Digwyddasant. Myfi, yr Alpha a’r Omega, y dechreu a’r diwedd wyf, Myfi, i’r hwn sydd a syched arno y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrthyf: Daethant i ben. Myfi yw’r Alffa a’r Omega, y dechrau a’r diwedd. I’r hwn sydd sychedig rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Darfu. Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd. I'r hwn sydd sychedig y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Meddai wrtho i: “Dyna ddiwedd y cwbl! Fi ydy'r Alffa a'r Omega, y Dechrau a'r Diwedd. Bydda i'n rhoi diod o ffynnon dŵr y bywyd i'r rhai hynny sy'n sychedig — yn rhad ac am ddim!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A dywedodd wrthyf, "Y mae'r cwbl ar ben! Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a'r diwedd. Rhoddaf fi i'r sychedig ddiod yn rhodd o ffynnon du373?r y bywyd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A dywedodd wrthyf. Cyflawnwyd hwynt. Myfi yw yr Alpha a'r Omega, y Dechreu a'r Diwedd. Myfi a roddaf i'r hwn sydd sychedig o'r ffynnon o ddwfr y bywyd yn rhad.