Revelation 21:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ond yr ofnoc ac anghredadwy ar casddynion a’r llyaswyr, ar pyteinwyr ar cyfareddwyr ar delw‐addolwyr, a phob celwddoc y rran hwynt y vydd yny pwll, ysydd yn llosgi o dan a’ brymstan, yr hwn ydiwr eil myrfolaeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond i’r rhai ofnog a digred a ffiaidd a llofruddion a swyn-gyfareddwyr ac eulunaddolwyr, ac i’r holl gelwyddwyr, eu rhan fydd yn y llyn sy’n llosgi â thân a brwmstan; yr hyn yw’r ail farwolaeth.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond am y rhai llwfr ac anffyddiog a ffiaidd a llofruddion a phuteinwyr a swyngyfareddwyr ac eilunaddolwyr a phawb celwyddog, bydd eu rhan yn y llyn yn llosgi gan dân a brwmstan, sef yw hynny, yr ail farwolaeth.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ond i'r rhai ofnog, a'r di-gred, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puteinwyr, a'r swyn-gyfareddwyr, a'r eilun-addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw'r ail farwolaeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond am y rhai llwfr hynny sydd ddim yn credu, a phobl ffiaidd, llofruddion, pobl sy'n anfoesol yn rhywiol, y rhai sy'n ymarfer dewiniaeth ac yn addoli eilun-dduwiau, ac sy'n dweud celwydd — y llyn tân sy'n llosgi brwmstan ydy eu lle nhw! Dyna'r ‛ail farwolaeth‛.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y llwfr, y di-gred, y ffiaidd, y llofruddion, y puteinwyr, y dewiniaid, yr eilunaddolwyr, a phawb celwyddog, eu rhan hwy fydd y llyn sy'n llosgi gan dn a brwmstan, hynny yw yr ail farwolaeth."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr i'r rhai annewr, a'r anghrediniol, a'r ffiaidd, a'r llofruddion, a'r puteinwyr, a'r swyn‐gyfareddwyr, a'r eilun‐addolwyr, a'r holl gelwyddwyr, bydd eu rhan yn y Llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw yr Ail Farwolaeth.