Revelation 21:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac vn or seith Angel, yrrein oeddent ar seith phiol ganthynt yn llawn or seith pla diwethaf y ddoyth attaf, ac ymddiddanoedd a mi, dan ddwedyd, Dabre: mi ddangosaf ytti y priodasverch, gwreic yr Oen.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A daeth un o’r saith angel oedd a chanddynt y saith phiol, a oedd wedi eu llwytho â’r saith bla diweddaf; a llefarodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, dangosaf i ti y briodas-ferch, gwraig Yr Oen;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A daeth un o’r saith angel y sydd ganddynt y saith ffiol yn llawn o’r saith bla diwethaf, ac ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd: Tyred, dangosaf iti’r briodferch, gwraig yr Oen.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A daeth ataf un o'r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt yn llawn o'r saith bla diwethaf, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, mi a ddangosaf i ti'r briodasferch, gwraig yr Oen.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna dyma un o'r saith angel oedd yn dal y powlenni llawn o'r saith pla olaf yn dod ata i a dweud, “Tyrd, a gwna i ddangos y briodferch i ti, sef gwraig yr Oen.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Daeth un o'r saith angel oedd 'r saith ffiol ganddynt yn llawn o'r saith bla diwethaf, a siaradodd mi. "Tyrd," meddai, "dangosaf iti'r briodferch, gwraig yr Oen."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A daeth un o'r saith angel yr oedd y saith phiol ganddynt yn llawn o'r saith bla diweddaf; ac efe a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, a danghosaf i ti y Briodasferch, Gwraig yr Oen.