Revelation 22:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr vn ysydd anghyfiawn, bid anghyfiawn eto: ar vn y sydd vudr, bid vudr etto: ar vn ysydd cyfiawn bid cyfiawn etto: ar vn ysydd santeið, bid santeidd etto.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n gwneuthur anghyfiawnder, gwnaed anghyfiawnder etto; a’r hwn sydd frwnt, brwnt y’i gwneler etto; a’r hwn sydd gyfiawn, cyfiawnder a wnaed; a’r sanctaidd, sancteiddier etto.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto, a’r aflan, aflaneiddier ef eto, a’r cyfiawn, gwneled gyfiawnder eto, a’r sanctaidd, sancteiddier ef eto.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd anghyfiawn, bydded anghyfiawn eto: a'r hwn sydd frwnt, bydded frwnt eto; a'r hwn sydd gyfiawn, bydded gyfiawn eto; a'r hwn sydd sanctaidd, bydded sanctaidd eto.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gadewch i'r rhai sy'n gwneud drwg ddal ati i wneud drwg; gadewch i'r rhai anfoesol ddal ati i fod yn anfoesol; gadewch i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn ddal ati i wneud beth sy'n iawn; a gadewch i'r rhai sy'n sanctaidd ddal ati i fod yn sanctaidd.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr anghyfiawn, parhaed yn anghyfiawn, a'r aflan yn aflan; y cyfiawn, parhaed i wneud cyfiawnder, a'r sanctaidd i fod yn sanctaidd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn gwneuthur anghyfiawnder, gwneled anghyfiawnder eto; a'r hwn sydd frwnt, gwneler ef yn frwnt eto; a'r hwn sydd gyfiawn, gwneled gyfiawnder eto, a'r hwn sydd sanctaidd, sancteiddier ef eto.