Revelation 22:14 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Bendigedic yvv y rrei, y wnelo y’orchmyney ef, mal y gallo y cyfiawnder hwy vod ymhren y bowyd, ac y gallont ðyfod y mewn trwy r pyrth yr dinas.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwyn eu byd y rhai sy’n golchi eu gwisgoedd, fel y bo iddynt awdurdod i ddyfod at bren y bywyd, a thrwy’r pyrth ddyfod i mewn i’r ddinas.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwyn eu byd y rhai sy’n golchi eu mentyll, fel y byddo hawl ganddynt ar bren y bywyd, ac yr elont i mewn drwy’r pyrth i’r ddinas.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gwyn eu byd y rhai sydd yn gwneuthur ei orchmynion ef, fel y byddo iddynt fraint ym mhren y bywyd, ac y gallont fyned i mewn trwy'r pyrth i'r ddinas.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Mae'r rhai sy'n glanhau eu mentyll wedi eu bendithio'n fawr, ac yn cael mynd at goeden y bywyd, ac yn cael mynediad drwy'r giatiau i mewn i'r ddinas.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwyn eu byd y rhai sy'n golchi eu mentyll er mwyn iddynt gael hawl ar bren y bywyd a mynediad trwy'r pyrth i'r ddinas.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gwyn eu byd y rhai sydd yn golchi eu gwisgoedd, fel y byddo iddynt hawl ar Bren y Bywyd, ac yr elont i mewn trwy y pyrth i'r Ddinas.