Revelation 22:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar ysbrud ar priodasverch ydynt yn dwedyd, Dabre. A’r vn y wrandawo, dweded, Dabre: A’r vn ysyð sychedic, doed: a’r vn y vyno, cymered dwr y bowyd, yn rrydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac Yr Yspryd ac Y Briodas-ferch sy’n dywedyd, Tyred. A’r hwn sy’n clywed, dyweded, Tyred. A’r hwn sydd a syched arno, deued; a’r hwn sy’n ewyllysio, cymmered ddwfr y bywyd yn rhad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywed yr ysbryd a’r briodferch: Tyred. A dyweded y neb a glyw: Tyred. A deued y sychedig, cymered y neb a ewyllysio ddwfr bywyd yn rhad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac y mae'r Ysbryd a'r briodasferch yn dywedyd, Tyred. A'r hwn sydd yn clywed, dyweded, Tyred. A'r hwn sydd â syched arno, deued. A'r hwn sydd yn ewyllysio, cymered ddwfr y bywyd yn rhad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r Ysbryd a'r briodferch yn dweud, “Tyrd!” Gadewch i bawb sy'n clywed ateb, “Tyrd!” Gadewch i'r rhai sydd â syched arnyn nhw ddod. Pwy bynnag sydd eisiau, gadewch iddyn nhw dderbyn dŵr y bywyd yn rhodd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r Ysbryd a'r briodferch yn dweud, "Tyrd"; a'r sawl sy'n clywed, dyweded yntau, "Tyrd." A'r sawl sy'n sychedig, deued ymlaen, a'r sawl sydd yn ei ddymuno, derbynied ddu373?r y bywyd yn rhodd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac y mae yr Yspryd a'r Briodasferch yn dywedyd, Tyred. A'r hwn sydd yn clywed, dyweded, Tyred. A'r hwn sydd a syched arno, deued; a'r hwn sydd yn ewyllysio, cymered Ddwfr y Bywyd yn rhad.