Revelation 22:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr wyf yn dangos bob vn y wrandawo g eiriey pryffodolaeth y Llyfr hwn, o dyd vn duyn ddim at y pethey hyn; Dyw y ddyd atto ef y plae, escrifenedic yny Llyfr hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Tystiolaethu yr wyf Fi i bob un y sy’n clywed geiriau prophwydoliaeth y llyfr hwn. Os rhyw un a rydd atto, rhydd Duw atto ef y plaau ysgrifenedig yn y llyfr hwn;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Tystiolaethaf i bob un a glyw eiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: Os chwanega neb atynt, chwanega Duw iddo yntau y plâu sy’n ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn, Os rhydd neb ddim at y pethau hyn, Duw a rydd ato ef y plâu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n rhybuddio pawb sy'n clywed geiriau proffwydol y llyfr hwn: Os bydd unrhyw un yn ychwanegu rhywbeth atyn nhw, bydd Duw yn dod â'r plâu sy'n cael eu disgrifio yn y llyfr hwn arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi'n rhybuddio pob un sy'n clywed geiriau proffwydoliaeth y llyfr hwn: os ychwanega unrhyw un ddim atynt, fe ychwanega Duw iddo yntau y plu sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf fi yn tystiolaethu i bob un sydd yn clywed geiriau prophwydoliaeth y Llyfr hwn. Os ychwanega neb atynt, Duw a ychwanega ato yntau y pläau sydd yn ysgrifenedig yn y Llyfr hwn;