Revelation 22:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac o thyn vn duyn ymaith ddim o ’eiriey’r Llyfr y proffedolaeth hon, Dyw y gymer ymaith yrran allan o lyfr y bowyd, ac allan or dinas santeidd, ac oddiwrth y pethey y escrifenir yn y Llyfr hwn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac os rhyw un a dỳn ymaith oddiwrth eiriau llyfr y brophwydoliaeth hon, tỳn Duw ymaith ei ran oddiwrth bren y bywyd, ac allan o’r ddinas sanctaidd, y rhai a ysgrifenwyd yn y llyfr hwn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac os tyn neb oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, tyn Duw ei ran ef o bren y bywyd ac o’r ddinas sanctaidd, pethau sy’n ysgrifenedig yn y llyfr hwn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac o thyn neb ymaith ddim oddi wrth eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, Duw a dynn ymaith ei ran ef allan o lyfr y bywyd, ac allan o'r ddinas sanctaidd, ac oddi wrth y pethau sydd wedi eu hysgrifennu yn y llyfr hwn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac os bydd unrhyw un yn dileu rhan o neges broffwydol y llyfr hwn, bydd Duw yn cymryd oddi arnyn nhw eu siâr o goeden y bywyd a'u lle yn y ddinas sanctaidd sy'n cael ei disgrifio yn y llyfr hwn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac os tyn unrhyw un ddim allan o eiriau llyfr y broffwydoliaeth hon, fe dynn Duw ei ran yntau allan o bren y bywyd, ac o'r ddinas sanctaidd, y pethau yr ysgrifennwyd amdanynt yn y llyfr hwn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac o thŷn neb ymaith oddiwrth eiriau Llyfr y brophwydoliaeth hon, Duw a dŷn ymaith ei ran ef oddiwrth Bren y Bywyd, ac allan o'r Ddinas Sanctaidd, y rhai a ysgrifennwyd yn y Llyfr hwn.