Revelation 22:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny vydd yno dim nos mvvy, ac nyd rreid yddynt dim canwyll, na goleyad yr haul: can ys yr Arglwydd Ddyw ysydd yn rroi yðynt goleyni, ac hwy y deirnasant yn dragywydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A nos ni fydd mwyach; a rhaid nid oes iddynt wrth oleuni llusern a goleuni haul, canys yr Arglwydd Dduw a oleua arnynt; a theyrnasant yn oes oesoedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac ni bydd nos mwyach, ac nid rhaid iddynt wrth olau lamp na golau haul, canys goleua’r Arglwydd Dduw iddynt, a theyrnasant yn oes oesoedd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac ni bydd nos yno: ac nid rhaid iddynt wrth gannwyll, na goleuni haul; oblegid y mae'r Arglwydd Dduw yn goleuo iddynt: a hwy a deyrnasant yn oes oesoedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fydd dim y fath beth â nos, felly fydd ganddyn nhw ddim angen golau lamp, na hyd yn oed golau'r haul. Bydd yr Arglwydd Dduw yn rhoi golau iddyn nhw. Byddan nhw'n teyrnasu am byth bythoedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ni bydd nos mwyach, ac ni bydd arnynt angen na golau lamp na golau haul, oherwydd bydd yr Arglwydd Dduw yn eu goleuo, a byddant hwy'n teyrnasu byth bythoedd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A nos ni fydd mwyach; ac nid oes rhaid iddynt wrth oleuni llusern a goleuni haul; canys yr Arglwydd Dduw a lewyrcha arnynt: a theyrnasant yn oes oesoedd.