Revelation 22:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef y ddwad wrthyfi, Y geiriey hyn ydynt ffyddlawn a’ chywir, ar Arglwydd Ddyw y proffwydi sanctaidd y ddanfonoedd y Angel y ddangos yddy wasnaethwyr y pethey ysydd reid y gyflewni ar vrys.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A dywedodd wrthyf, Y geiriau hyn, ffyddlawn a gwir ydynt; a’r Arglwydd, Duw ysprydoedd y prophwydi, a ddanfonodd Ei angel i ddangos i’w weision y pethau y mae rhaid iddynt ddigwydd ar fyrder.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A dywedodd wrthyf: Dyma’r geiriau ffyddlon a chywir, ac anfonodd Arglwydd Dduw ysbrydoedd y proffwydi ei angel i ddangos i’w weision y pethau sydd raid iddynt ddigwydd ar fyrder.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a ddywedodd wrthyf fi, Y geiriau hyn sydd ffyddlon a chywir: ac Arglwydd Dduw'r proffwydi sanctaidd a ddanfonodd ei angel i ddangos i'w wasanaethwyr y pethau sydd raid iddynt fod ar frys.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dyma'r angel yn dweud wrtho i, “Mae beth dw i'n ei ddweud yn gwbl ddibynadwy ac yn wir. Mae'r Arglwydd, y Duw sy'n ysbrydoli'r proffwydi, wedi anfon ei angel i ddangos i'r rhai sy'n ei wasanaethu beth sy'n mynd i ddigwydd yn fuan.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yna dywedodd yr angel wrthyf, "Dyma eiriau ffyddlon a gwir: y mae'r Arglwydd Dduw, sy'n ysbrydoli'r proffwydi, wedi anfon ei angel i ddangos i'w weision y pethau y mae'n rhaid iddynt ddigwydd ar fyrder.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a ddywedodd wrthyf, Y geiriau hyn sydd ffyddlawn a gwirioneddol: a'r Arglwydd, Duw ysprydoedd y prophwydi, a ddanfonodd ei angel i ddangos i'w weision y pethau y mae yn rhaid iddynt ddygwydd ar frys.