Revelation 22:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac mi wyf Ioan, yr hwn y weleis ac y glyweis y pethey hyn; a’ phan ddar f oedd ymi y clywed ae gweled, mi syrthies y lawr y addoli gair bron traed yr Angel, yr hwn y ddangosoedd ymi y pethey hyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac myfi, Ioan yw’r hwn sy’n clywed ac yn gweled y pethau hyn. A phan glywais a gweled, syrthiais i lawr i addoli o flaen traed yr angel oedd yn dangos i mi y pethau hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A myfi Ioan yw’r hwn sy’n clywed ac yn gweled y pethau hyn. A phan glywais a gweled, syrthiais i addoli wrth draed yr angel a’u dangosai hwynt imi.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A myfi Ioan a welais y pethau hyn, ac a'u clywais. A phan ddarfu i mi glywed a gweled, mi a syrthiais i lawr i addoli gerbron traed yr angel oedd yn dangos i mi'r pethau hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Fi, Ioan, glywodd ac a welodd y pethau yma i gyd. Ar ôl i mi eu clywed a'u gweld syrthiais i lawr wrth draed yr angel oedd wedi bod yn dangos y cwbl i mi a'i addoli.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Myfi, Ioan, yw'r un a glywodd ac a welodd y pethau hyn. Ac wedi imi glywed a gweld, syrthiais wrth draed yr angel a'u dangosodd imi, i'w addoli;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A myfi Ioan yw yr hwn sydd yn clywed ac yn gweled y pethau hyn. A phan y clywais ac y gwelais, syrthiais i lawr i addoli o flaen traed yr angel a ddanghosodd i mi y pethau hyn.