Revelation 3:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
AC escrivena at Angel Eglwys ys y yn Sardi, Hyn y ddwed ef ysydd a seith ysbrud Dyw gantho, ar seith seren, Mi adwen dy weithredoedd can ys y may enw genyd dy vod yn vyw, ond yr wyd yn varw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac at angel yr eglwys y sydd yn Sardis ysgrifena, Y pethau hyn a ddywaid yr Hwn sydd a Chanddo saith Yspryd Duw a’r saith seren, Gwn dy weithredoedd di, fod enw genyt dy fod yn fyw, a marw ydwyt. Bydd yn gwylied;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac at angel yr eglwys yn Sardis ysgrifenna: Dyma a ddywed yr hwn sydd ganddo saith ysbryd Duw a’r saith seren: Gwn am dy weithredoedd; y mae gennyt enw dy fod yn fyw, ond marw ydwyt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac at angel yr eglwys sydd yn Sardis, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae'r hwn sydd â saith Ysbryd Duw a'r saith seren ganddo, yn eu dywedyd; Mi a adwaen dy weithredoedd di, oblegid y mae gennyt enw dy fod yn fyw, a marw ydwyt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Sardis: ‘Dyma beth mae'r un y mae Ysbryd cyflawn perffaith Duw ganddo ac sy'n dal y saith seren yn ei ddweud: Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Mae gen ti enw dy fod yn eglwys fyw, ond corff marw wyt ti go iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ac at angel yr eglwys yn Sardis, ysgrifenna: 'Dyma y mae'r hwn sydd ganddo saith ysbryd Duw a'r saith seren yn ei ddweud: Gwn am dy weithredoedd, a bod gennyt enw dy fod yn fyw er mai marw ydwyt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac at angel yr eglwys yn Sardis ysgrifenna: Y pethau hyn y mae yr hwn sydd a Saith Yspryd Duw a'r saith seren ganddo yn eu dywedyd: Mi a adwaen dy weithredoedd di, fod gennyt ti enw dy fod yn fyw, a marw ydwyt.