Revelation 3:10 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O achos yd gadw geir vyng oddef i, am hyny mi ath cadwa di oddiwrth awr y profedigaeth, yr hon a ddaw ar yr holl vyd, y brofi hwynt ar ydynt yn trigo ar y ddayar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan mai cadw gair Fy amynedd a wnaethost, Myfi hefyd a’th gadwaf di oddiwrth awr y brofedigaeth, yr hon awr sydd ar fedr dyfod ar y byd oll, i brofi y rhai sy’n trigo ar y ddaear.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am iti gadw gair fy amynedd i, cadwaf finnau di rhag awr y prawf sydd ar ddyfod ar yr holl fyd, i brofi’r sawl sy’n trigo ar y ddaear,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
O achos cadw ohonot air fy amynedd i, minnau a'th gadwaf di oddi wrth awr y brofedigaeth, yr hon a ddaw ar yr holl fyd, i brofi'r rhai sydd yn trigo ar y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Am dy fod di wedi bod yn ufudd i'r gorchymyn i ddal ati, bydda i'n dy amddiffyn di rhag yr amser caled fydd y byd i gyd yn mynd trwyddo, pan fydd y rhai sy'n perthyn i'r ddaear ar brawf.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am iti gadw fy ngair i ddyfalbarhau, byddaf finnau yn dy gadw di rhag awr y prawf sydd ar ddod ar yr holl fyd i brofi trigolion y ddaear.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
O herwydd i ti gadw gair fy amynedd i, minnau hefyd a'th gadwaf di oddi wrth awr y prawf, yr hwn sydd ar ddyfod ar yr holl ddaear, i brofi y rhai sydd yn trigo ar y ddaear.