Revelation 3:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi wnaf yr vn y ’orfyddo yn biler yn hemel vy nyw i, ac nyd eiff ef allan rac llaw: ac mi escrifenaf arno ef Enw vy nyw i, ac enw dinas vy nyw i, yr hon ydiw Caersalem newydd, y sydd yn discyn or nef oddiwrth vy nyw i, ac mi scrivennaf arno ef vy Enw newydd i.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n gorchfygu, gwnaf ef yn golofn yn nheml Fy Nuw, ac allan nid â efe mwyach er dim; ac ysgrifenaf arno enw Fy Nuw, ac enw dinas Fy Nuw, yr Ierwshalem newydd, yr hon sydd yn disgyn o’r nef oddiwrth Fy Nuw; ac Fy enw newydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr hwn sy’n gorchfygu, gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw, ac allan nid â mwyach, ac ysgrifennaf arno enw fy Nuw ac enw dinas fy Nuw, y Jerwsalem newydd sy’n disgyn o’r nef oddi wrth fy Nuw, a’m henw newydd innau.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a'i gwnaf ef yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac allan nid â efe mwyach: ac mi a ysgrifennaf arno ef enw fy Nuw i, ac enw dinas fy Nuw i, yr hon ydyw Jerwsalem newydd, yr hon sydd yn disgyn o'r nef oddi wrth fy Nuw i: ac mi a ysgrifennaf arno ef fy enw newydd i.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n gwneud pawb sy'n ennill y frwydr yn biler yn nheml fy Nuw. Fyddan nhw byth yn ei gadael. Bydda i'n ysgrifennu enw fy Nuw arnyn nhw, ac enw dinas fy Nuw, sef y Jerwsalem newydd sy'n dod i lawr oddi wrth Dduw yn y nefoedd; bydda i hefyd yn ysgrifennu fy enw newydd i arnyn nhw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y sawl sy'n gorchfygu, fe'i gwnaf yn golofn yn nheml fy Nuw i, ac nid allan oddi yno byth. Ac ysgrifennaf arno enw fy Nuw i ac enw dinas fy Nuw i, y Jerwsalem newydd sy'n disgyn o'r nef oddi wrth fy Nuw i a'm henw newydd i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn gorchfygu, mi a'i gwnaf ef yn golofn yng Nghysegr fy Nuw i, ac allan oddi yno nid ä efe mwyach; ac ysgrifennaf arno ef enw fy Nuw i, ac enw Dinas fy Nuw i, y Jerusalem Newydd, yr hon sydd yn dyfod i lawr o'r nef oddiwrth fy Nuw i, ac enw newydd fy hun.