Revelation 3:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr wyd yn dwedyd, Yr wyf i yn gyvoethoc, a chenyf amlder o dda, ac ny does arnaf eisie dim, ac ny wddost dy vod yn druan ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Oblegid dywedyd o honot, Goludog wyf, ac yn oludog yr aethum, ac nid oes arnaf eisiau dim, ac na wyddost dy fod di yn druenus, ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am y dywedi, Cyfoethog wyf ac ymgyfoethogais ac nid oes arnaf angen dim, ac na wyddost mai tydi yw’r truan a’r gresynus a’r tlawd a’r dall a’r noeth,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid dy fod yn dywedyd, Goludog wyf, ac mi a gyfoethogais, ac nid oes arnaf eisiau dim; ac ni wyddost dy fod yn druan, ac yn resynol, ac yn dlawd, ac yn ddall, ac yn noeth.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rwyt ti'n dweud, “Dw i'n gyfoethog; dw i wedi ennill cymaint o gyfoeth does gen i angen dim byd.” Dwyt ti ddim yn gweld mor druenus rwyt ti go iawn. Druan ohonot ti! Rwyt ti'n dlawd yn ddall ac yn noeth!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dweud yr wyt, "Rwy'n gyfoethog, ac wedi casglu golud, ac nid oes arnaf eisiau dim"; ac ni wyddost mai gwrthrych trueni a thosturi ydwyt, yn dlawd, yn ddall, ac yn noeth.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd dy fod yn dywedyd, Goludog wyf, ac yr wyf wedi myned yn oludog, ac nid oes arnaf eisieu dim; ac ni wyddost mai yr un truenus ydwyt, a gresynol, a thlawd, a dall, a noeth;