Revelation 3:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi gynghoraf ytti bryny genyfi aur puredic trwy dan, mal y gellir dy gyvoethogi, a gwisco amdanad a dillad gwnion, mal ith ymwiscer, ac mal nad ymddangoso cywilydd dy noethter di: ac ira dy olygon ac eli llygeid, mal y gwelych:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
dy gynghori yr wyf i brynu Genyf aur wedi ei goethi trwy dân, fel y’th gyfoethoger; a dillad gwynion, fel yr ymwisgech, ac nad amlyger cywilydd dy noethder; ac eli llygaid, i enneinio dy lygaid, fel y gwelech.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
cynghoraf di i brynu gennyf aur wedi ei buro drwy dân fel y byddych gyfoethog, a dillad gwynion fel y’th wisger ac na ddelo cywilydd dy noethni i’r golwg, ac eli i iro dy lygaid fel y gwelych.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr wyf yn dy gynghori i brynu gennyf fi aur wedi ei buro trwy dân, fel y'th gyfoethoger; a dillad gwynion, fel y'th wisger, ac fel nad ymddangoso gwarth dy noethder di; ira hefyd dy lygaid ag eli llygaid, fel y gwelech.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n dy gynghori di i brynu aur gen i, aur wedi ei goethi trwy dân. Byddi di'n gyfoethog wedyn! A phryna ddillad gwyn i'w gwisgo, wedyn fydd dim rhaid i ti gywilyddio am dy fod yn noeth. A gelli brynu eli i'r llygaid hefyd, er mwyn i ti allu gweld eto!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Felly, cynghoraf di i brynu gennyf fi aur wedi ei buro drwy dn, iti ddod yn gyfoethog, a dillad gwyn i'w gwisgo, i guddio gwarth dy noethni, ac eli i iro dy lygaid, iti gael gweld.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr wyf yn dy gynghori i brynu gennyf fi aur wedi ei goethi trwy dân, fel y'th gyfoethoger; a dillad gwynion, fel y'th wisger, ac fel nad amlyger gwarth dy noethder di; ac eli llygaid i eneinio dy lygaid, fel y gweli.