Revelation 3:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yrwyf yn beio ac yn cospi y sawl yr wyf yny garu: am hyny pryssyrgara a gwella.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Myfi, cynnifer ag yr wyf yn eu caru, eu hargyhoeddi a’u ceryddu yr wyf.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr wyf fi ’n ceryddu ac yn disgyblu cynifer ag a garaf; bydd selog ynteu ac edifarha.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr wyf fi yn argyhoeddi, ac yn ceryddu'r sawl yr wyf yn eu caru: am hynny bydded gennyt sêl, ac edifarha.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n ceryddu a disgyblu pawb dw i'n eu caru. Felly bwrw iddi o ddifri, a thro dy gefn ar bechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf fi'n ceryddu ac yn disgyblu'r rhai a garaf; bydd selog, felly, ac edifarha.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr wyf yn argyhoeddi ac yn dysgyblu y sawl yr wyf yn eu hoffi. Bydd yn selog gan hynny, ac edifarhâ.