Revelation 3:2 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Duhyn a’ chadarnha y gweddillion, ar ydynt yn barod y veirw: can ys ny cheveis i dy weithredoedd yn byrffeith gair bron Dyw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a chadarnha y pethau yngweddill, y rhai oeddynt ar fedr marw; canys ni chefais dy weithredoedd di wedi eu cyflawni ger bron Fy Nuw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Bydd wyliadwrus, a chryfha’r pethau sydd yngweddill ac ar ddarfod amdanynt. Canys ni chefais gennyt weithredoedd cyflawn gerbron fy Nuw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Bydd wyliadwrus, a sicrha'r pethau sydd yn ôl, y rhai sydd barod i farw: canys ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn gerbron Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Deffra! Cryfha beth sy'n dal ar ôl cyn i hwnnw farw hefyd. Dydy beth rwyt ti'n ei wneud ddim yn dderbyniol gan Dduw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Bydd effro, a chryfha'r hyn sydd ar l gennyt, sydd ar ddarfod amdano, oherwydd ni chefais dy weithredoedd yn gyflawn yng ngolwg fy Nuw i.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Bydd wyliadwrus, a sefydla y pethau sydd yng ngweddill, y rhai oeddynt ar farw; canys ni chefais weithredoedd o'th eiddot wedi eu cyflawnu ger bron fy Nuw.