Revelation 3:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr vn y orfyddo, mi rro yddo ef eiste gyda mi yn vy eisteddle, mal y gorvym i, ac eisteddes gyda vynhad yn y eisteddle ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n gorchfygu, rhoddaf iddo i eistedd gyda Mi ar Fy ngorsedd-faingc; fel y gorchfygais Innau hefyd, ac yr eisteddais gyda Fy Nhad ar Ei orsedd-faingc.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr hwn sy’n gorchfygu, rhoddaf iddo eistedd gyda mi ar fy ngorsedd, megis y gorchfygais innau ac eistedd gyda’m Tad ar ei orsedd ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo ef eistedd gyda mi ar fy ngorseddfainc, megis y gorchfygais innau, ac yr eisteddais gyda'm Tad ar ei orseddfainc ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pawb sy'n ennill y frwydr yn cael hawl i deyrnasu gyda mi ar fy ngorsedd, yn union fel wnes i ennill y frwydr, a theyrnasu gyda fy Nhad ar ei orsedd e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I'r sawl sy'n gorchfygu y rhof yr hawl i eistedd gyda mi ar fy ngorsedd, megis y gorchfygais innau ac yr eisteddais gyda'm Tad ar ei orsedd ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn gorchfygu, rhoddaf iddo i eistedd gyda mi ar fy ngorsedd, fel y gorchfygais innau ac yr eisteddais i gyda fy Nhâd ar ei Orsedd ef.