Revelation 3:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr y mae genyd ychydyc o enwey eto yn Sardi, yrrein ny halogesont y dillad: a rrei hyny a rrodiant gyda mi mewn dillad gwnion: can ys teylwng ydynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr y mae genyt ychydig enwau yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a rhodiant ynghyda Mi mewn dillad gwynion, canys teilwng ydynt.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond y mae gennyt ychydig enwau yn Sardis na halogasant eu dillad, a rhodiant gyda mi mewn gwyn, canys teilwng ydynt.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y mae gennyt ychydig enwau, ie, yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion: oblegid teilwng ydynt.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac eto mae rhai pobl yn Sardis sydd heb faeddu eu dillad. Byddan nhw'n cerdded gyda mi wedi eu gwisgo mewn dillad gwyn. Dyna maen nhw'n ei haeddu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond y mae gennyt rai unigolion yn Sardis nad ydynt wedi halogi eu dillad; caiff y rhain rodio gyda mi mewn gwisgoedd gwynion, oherwydd y maent yn deilwng.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr y mae gennyt ychydig enwau yn Sardis, y rhai ni halogasant eu dillad; a hwy a rodiant gyda mi mewn dillad gwynion, canys teilwng ydynt.