Revelation 3:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr vn y orfyddo, y dddillatteir mewn dillad gwnion, ac ny ddodaf y enw ef allan o Lyfr y bowyd, ond mi coffessaf y enw ef gair bron vyn had, a’ chair bron y Angelion.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yr hwn sy’n gorchfygu, fel hyn y’i gwisgir mewn dillad gwynion; ac ni ddileaf mo’i enw o lyfr y bywyd; a chyffesaf ei enw ger bron Fy Nhad, a cher bron Ei angylion.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Yr hwn sy’n gorchfygu, gwisgir ef felly mewn dillad gwynion, ac ni ddileaf ei enw o lyfr y bywyd, a chyffesaf ei enw gerbron fy Nhad a cherbron ei angylion ef.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn sydd yn gorchfygu, hwnnw a wisgir mewn dillad gwynion; ac ni ddileaf ei enw ef allan o lyfr y bywyd, ond mi a gyffesaf ei enw ef gerbron fy Nhad, a cherbron ei angylion ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydd pawb sy'n ennill y frwydr yn cael gwisgo dillad gwyn. Fydda i byth yn dileu eu henwau nhw o Lyfr y Bywyd. Bydda i'n dweud yn agored o flaen fy Nhad a'i angylion eu bod nhw'n perthyn i mi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y sawl sy'n gorchfygu, gwisgir hwnnw yn yr un modd mewn gwisgoedd gwynion, ac ni thorraf byth ei enw allan o lyfr y bywyd, a chyffesaf ei enw gerbron fy Nhad a cherbron ei angylion ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yr hwn sydd yn gorchfygu a wisgir fel hyn mewn dillad gwynion; ac ni ddilëaf mewn un modd ei enw ef allan o Lyfr y Bywyd, a chyffesaf ei enw ef ger bron fy Nhâd, a cher bron ei angelion ef.