Revelation 3:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
¶ Ac Escrifena at Angel yr Eglwys ys y yn Philadelphia, Hyn y ðwed ef y sydd santeidd a chowir, yr hwn y mae gantho agoriad Dauid, yr hwn agor a ac ny chay a neb, ac y gay a ac nyd agor a neb,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac at angel yr eglwys y sydd yn Philadelphia ysgrifena, Y pethau hyn a ddywaid Y Sanctaidd, Y Gwir, yr Hwn sydd a Chanddo agoriad Dafydd; yr Hwn sydd yn agoryd, ac neb ni chaua; ac yn cau ac nid oes neb yn agoryd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac at angel yr eglwys yn Philadelffia ysgrifenna: Dyma a ddywed y sanctaidd, y cywir, yr hwn y mae allwedd Dafydd ganddo, ef sy’n agor ac ni chly neb, ac yn cloi ac nid egyr neb:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac at angel yr eglwys sydd yn Philadelffia, ysgrifenna; Y pethau hyn y mae y Sanctaidd, y Cywir, yn eu dywedyd, yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd, yr hwn sydd yn agoryd, ac nid yw neb yn cau; ac yn cau, ac nid yw neb yn agoryd;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Ysgrifenna hyn at arweinydd yr eglwys yn Philadelffia: ‘Dyma mae'r Un sanctaidd, yr Un gwir, yn ei ddweud. Mae allwedd teyrnas Dafydd ganddo, a does neb yn gallu cloi beth mae wedi ei agor, nac agor beth mae wedi ei gloi:
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Ac at angel yr eglwys yn Philadelffia, ysgrifenna: 'Dyma y mae'r Un sanctaidd, yr Un gwir, yn ei ddweud, yr hwn y mae allwedd Dafydd ganddo, yr hwn sy'n agor, ac ni fydd neb yn cau, ac yn cau, a neb yn agor:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac at angel yr eglwys sydd yn Philadelphia ysgrifenna: Y pethau hyn y mae y Sanctaidd, y Gwirioneddol, yn eu dywedyd, yr hwn sydd ganddo agoriad Dafydd, yr hwn sydd yn agoryd, ac ni chaua neb; ac yn cau, ac nid yw neb yn agoryd.