Revelation 3:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mi adwen dy weithredoedd: syna, mi a ddodeis gair dy vron drws agored, ac ny dduchyn neb y chay ed hi: can ys y mae genyd ychydic rym a thi y gedweist vyngeir, ac ny wedeist vy Enw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gwn dy weithredoedd di (wele, rhoddais o’th flaen ddrws wedi ei agoryd, yr hwn ni all neb ei gau,) mai ychydig sydd genyt o allu, ac y cedwaist Fy ngair I, ac na wedaist Fy enw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gwn am dy weithredoedd; wele rhoddais o’th flaen ddrws agored na ddichon neb ei gloi; ychydig allu sydd gennyt, a chedwaist fy ngair, ac ni wedaist fy enw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mi a adwaen dy weithredoedd: wele, rhoddais ger dy fron ddrws agored, ac ni ddichon neb ei gau: canys y mae gennyt ychydig nerth, a thi a gedwaist fy ngair, ac ni wedaist fy enw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dw i'n gwybod am bopeth rwyt ti'n ei wneud. Edrych, dw i wedi agor drws i ti — drws fydd neb yn gallu ei gau. Dw i'n gwybod mai ychydig nerth sydd gen ti, ond rwyt ti wedi gwneud beth dw i'n ei ddweud a heb wadu dy fod ti'n credu ynof fi.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Gwn am dy weithredoedd, a dyma fi wedi rhoi o'th flaen ddrws agored na fedr neb ei gau. Gwn mai ychydig nerth sydd gennyt, ond cedwaist fy ngair ac ni wedaist fy enw.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mi a adwaen dy weithredoedd (wele, yr wyf wedi rhoddi o'th flaen ddrws wedi ei agoryd, yr hwn ni all neb ei gau), mai ychydig nerth sydd gennyt, a chedwaist fy ngair i, ac ni wedaist fy enw.