Revelation 3:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Syna, mi wnaf yddynt hwy o Synagog satan y rrein y galwant y hun yn Iddewon ac nyd ydynt, ond y maent yn gelwyddog ion, syna, meddaf, mi‐wnaf yddynt ddyfod ac anrrydeddy gair bron dy draed, a’ chydnabod vy mod yn du garu di.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wele, rhoddi yr wyf o sunagog Satan, o’r rhai sy’n dywedyd eu bod hwy yn Iwddewon, ac nid ydynt, eithr celwyddu y maent; wele, gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod ddarfod i Mi dy garu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wele rhof rai o synagog Satan, o’r sawl a’u geilw eu hunain yn Iddewon, a hwythau heb fod, eithr dywedyd celwydd y maent; wele gwnaf iddynt ddyfod ac ymgrymu wrth dy draed a gwybod imi dy garu di.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Wele, mi a wnaf iddynt hwy o synagog Satan, y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iddewon, ac nid ydynt, ond dywedyd celwydd y maent; wele, meddaf, gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod fy mod i yn dy garu di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Bydda i'n gwneud i'r rhai sy'n perthyn i synagog Satan ddod â syrthio wrth dy draed di a chydnabod mai chi ydy'r bobl dw i wedi eu caru. Maen nhw'n honni bod yn bobl Dduw, ond dydyn nhw ddim go iawn; maen nhw'n dweud celwydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wele, rhoddaf iti rai o synagog Satan sydd yn eu galw eu hunain yn Iddewon a hwythau heb fod felly; dweud celwydd y maent. Wele, gwnaf iddynt ddod ac ymgrymu wrth dy draed, a chael gwybod i mi dy garu di.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wele, gwnaf i'r rhai o Synagog Satan (y rhai sydd yn dywedyd eu bod yn Iuddewon, ac nid ydynt, eithr celwyddog ydynt), wele, gwnaf iddynt ddyfod ac addoli o flaen dy draed, a gwybod fy mod i yn dy garu di.