Revelation 4:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
GWedy hyn mi edrycheis, a’ syna, y rydoeð drws yn ogored yn y nef, ar lleis cynta y glyweis, oedd mal lleis trwmpet yn c whedlea a mi, dan ddywedyd, Dabre y vyny dd yma, a mi ddangosaf ytti y pethey y orfydd yw gwneithr rrac llaw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ar ol y pethau hyn edrychais, ac wele ddrws wedi Ei agoryd yn y nef; a’r llais cyntaf a glywais, fel llais udgorn yn llefaru â mi, dywedyd o un, Tyred i fynu yma, a dangosaf i ti y pethau y mae rhaid iddynt ddigwydd ar ol hyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Wedi hyn edrychais, ac wele ddrws, wedi ei agor yn y nef, a’r llais cyntaf a glywais fel utgorn yn siarad â mi gan ddywedyd: Dring yma, a dangosaf i ti ’r pethau sydd raid iddynt ddigwydd wedi hyn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ar ôl y pethau hyn yr edrychais; ac wele ddrws wedi ei agoryd yn y nef: a'r llais cyntaf a glywais oedd fel llais utgorn yn ymddiddan â mi, gan ddywedyd, Dring i fyny yma, a mi a ddangosaf i ti'r pethau sydd raid eu bod ar ôl hyn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna ces i weledigaeth. Roedd drws agored yn y nefoedd o'm blaen i. A dyma'r llais roeddwn wedi ei glywed yn siarad â mi ar y cychwyn (y llais hwnnw oedd yn glir fel trwmped), yn dweud: “Tyrd i fyny yma, a bydda i'n dangos i ti beth sy'n mynd i ddigwydd ar ôl hyn.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ar l hyn edrychais, ac wele ddrws wedi ei agor yn y nef; a dyma'r llais, a glywswn gyntaf yn llefaru wrthyf fel su373?n utgorn, yn dweud, "Tyrd i fyny yma, a dangosaf iti'r pethau y mae'n rhaid iddynt ddigwydd ar l hyn."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ar ol y pethau hyn gwelais, ac wele ddrws wedi ei agoryd yn y nef, a'r llais cyntaf yr hwn a glywais, fel llais udgorn yn llefaru â mi, yn dywedyd, Tyred i fyny yma, a danghosaf i ti y pethau y mae rhaid iddynt ddygwydd ar ol hyn.