Revelation 4:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar vn y eisteddoedd, oedd yw edrych arno, yn debic y garec iaspis, a’ charec sardin, ac envys oedd gylch ogylch yr eisteddle yn debic yr olwc arno y garec smaragdus.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac yr Hwn yn Ei eistedd, tebyg oedd, i’ r golwg, i faen iaspir a sardin; ac enfys oedd o amgylch yr orsedd-faingc, yn debyg, i’ r golwg, i smaragdus;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a’r hwn a eisteddai yn gyffelyb yr olwg arno i faen iaspis a sardion, ac enfys o gylch yr orsedd, yn gyffelyb yr olwg arni i smaragdin.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen iasbis a sardin: ac yr oedd enfys o amgylch yr orseddfainc, yn debyg yr olwg arno i smaragdus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd yr Un oedd yn eistedd arni yn disgleirio fel gemau iasbis a sardion, ac roedd enfys hardd fel emrallt o gwmpas yr orsedd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd hwn yn debyg ei olwg i faen iasbis a sardion, ac o amgylch yr orsedd yr oedd enfys debyg i emrallt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a'r hwn oedd yn eistedd oedd yn debyg yr olwg arno i faen iaspis a sardin: ac yr oedd enfys o amgylch yr orsedd yn debyg yr olwg arno i smaragdus.