Revelation 4:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn golwc yr eisteddle yr ydoedd mor o wydr yn debic y vaen cristal: ac ync h anol yr eisteddle, ac ynghylch yr eisteddle y royddent pedwar enifel yn llawn o lygeid ym’laen ac yn ol.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac o flaen yr orsedd-faingc yr oedd fel pe bai fôr o wydr, tebyg i grustal; ac ynghanol yr orsedd-faingc, ac o amgylch yr orsedd-faingc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o’r tu blaen ac o’r tu ol.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac o flaen yr orsedd megis môr gwydr cyffelyb i risial; ac ynghanol yr orsedd ac o gylch yr orsedd bedwar peth byw llawn llygaid flaen ac ôl.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac o flaen yr orseddfainc yr ydoedd môr o wydr, yn debyg i grisial: ac yng nghanol yr orseddfainc, ac ynghylch yr orseddfainc, yr oedd pedwar anifail yn llawn o lygaid o'r tu blaen ac o'r tu ôl.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Hefyd o flaen yr orsedd roedd rhywbeth tebyg i fôr o wydr, yn glir fel grisial. Yn y canol o gwmpas yr orsedd, roedd pedwar creadur byw gyda llygaid yn eu gorchuddio, o'r tu blaen a'r tu ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
O flaen yr orsedd yr oedd mr megis o wydr, tebyg i risial. Ac yng nghanol yr orsedd ac o'i hamgylch yr oedd pedwar creadur byw yn llawn o lygaid o'r tu blaen a'r tu l.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac o flaen yr Orsedd yr oedd fel pe bai môr o wydr, yn debyg i risial; ac yng nghanol yr Orsedd, ac yng nghylch yr Orsedd yr oedd pedwar creadur byw yn llawn o lygaid o'r tu blaen ac o'r tu ol.