Revelation 4:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ar enifel cyntaf cynhebic yllew ydoeð, ar eil enifel yn debic y lo, ar trydedd oedd ac weyneb gantho mal vvynep d u yn, ar pedwaredd enifel oedd yn debic y eryr yn hedfan.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r anifail cyntaf oedd debyg i lew; a’r ail anifail yn debyg i lo; a’r trydydd anifail a chanddo wyneb fel yr eiddo dyn; a’r pedwerydd anifail yn debyg i eryr yn ehedeg.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r peth byw cyntaf oedd debyg i lew, a’r ail beth byw yn debyg i lo, a’r trydydd peth byw a chanddo’i wyneb fel wyneb dyn, a’r pedwerydd peth byw yn debyg i eryr ar ei adain.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r anifail cyntaf oedd debyg i lew, a'r ail anifail yn debyg i lo, a'r trydydd anifail oedd ganddo wyneb fel dyn, a'r pedwerydd anifail oedd debyg i eryr yn ehedeg.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd y creadur cyntaf yn debyg i lew, yr ail yn debyg i lo, roedd gan y trydydd wyneb dynol, ac roedd y pedwerydd fel eryr yn hedfan.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr oedd y creadur cyntaf yn debyg i lew, a'r ail i lo; yr oedd gan y trydydd wyneb dynol, ac yr oedd y pedwerydd yn debyg i eryr yn hedfan.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r creadur cyntaf oedd debyg i lew, a'r ail greadur yn debyg i lo, a'r trydydd creadur oedd ganddo wyneb fel eiddo dyn, a'r pedwerydd creadur oedd debyg i eryr yn ehedeg.