Revelation 4:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yroedd y bob vn or pedwar enifel chwech o adeinedd gylch ogylch yddynt, a’ rreini yn llawn llygeid otyfewn ac nyd odddent yn gorffowys dydd na nos, yn dwedyd, Sanct eidd, sanct eidd Sanct eidd Arglwydd Ddyw, h ollalluawc, yr hwn y Vu, ac y Sydd, ac Ys ydd ar ddyvot.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A’r pedwar anifail, bob un o honynt a chanddo chwech o adenydd, ydynt o amgylch ac oddifewn yn llawn llygaid; a gorphwys nid oes iddynt ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct yw ’r Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Hwn oedd ac yr Hwn sydd ac yr Hwn sydd yn Dyfod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A’r pedwar peth byw, pob un ohonynt â chwech adain yr un, llawn llygaid ydynt oddi amgylch ac oddi mewn; ac ni pheidiant na dydd na nos â dywedyd: Sanct, sanct, sanct, Arglwydd Dduw hollalluog, yr hwn oedd ac y sydd ac a ddaw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A'r pedwar anifail oedd ganddynt, bob un ohonynt, chwech o adenydd o'u hamgylch; ac yr oeddynt oddi fewn yn llawn llygaid: ac nid oeddynt yn gorffwys ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, Arglwydd Dduw Hollalluog, yr hwn oedd, a'r hwn sydd, a'r hwn sydd i ddyfod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd gan bob un o'r creaduriaid chwe adain wedi eu gorchuddio'n llwyr gyda llygaid, hyd yn oed o dan yr adenydd. Roedden nhw'n siantio drosodd a throsodd, heb orffwys nos na dydd: “Sanctaidd, sanctaidd, sanctaidd ydy'r Arglwydd Dduw Hollalluog, yr Un oedd, ac sydd, ac sy'n mynd i ddod.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
I'r pedwar creadur byw yr oedd chwe adain yr un, ac yr oeddent yn llawn o lygaid o'u hamgylch ac o'u mewn, a heb orffwys ddydd na nos yr oeddent yn dweud: "Sanct, Sanct, Sanct yw'r Arglwydd Dduw hollalluog, yr hwn oedd a'r hwn sydd a'r hwn sydd i ddod!"
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A'r pedwar creadur byw, a chanddynt chwech o adenydd bob un, ydynt yn llawn llygaid o amgylch ac oddi fewn; a gorphwys nid oes iddynt ddydd a nos, gan ddywedyd, Sanct, Sanct, Sanct, yw yr Arglwydd Dduw, yr Hollalluog, yr Hwn oedd, a'r Hwn sydd, a'r Hwn sydd yn dyfod.