Revelation 4:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’ phan rroyssont y nefeylied hynny g ogoniant ac anrrydedd, a’ diolch ir yr hwn oeð yn eiste dd ar yr eisteddle, yr hwn y sydd yn byw yn dragywydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A phan roddo’r anifeiliaid ogoniant ac anrhydedd a diolch i’r Hwn sy’n eistedd ar yr orsedd-faingc, yr Hwn sy’n byw yn oes oesoedd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phan rydd y pethau byw ogoniant ac anrhydedd a diolch i’r hwn sy’n eistedd ar yr orsedd, yr hwn sydd fyw yn oes oesoedd,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A phan fyddo'r anifeiliaid yn rhoddi gogoniant, ac anrhydedd, a diolch, i'r hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, yr hwn sydd yn byw yn oes oesoedd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yna wrth i'r creaduriaid byw roi clod ac anrhydedd a diolch i'r Un sy'n eistedd ar yr orsedd, sef yr Un sy'n byw am byth bythoedd,
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan fydd y creaduriaid byw yn rhoi gogoniant ac anrhydedd a diolch i'r hwn sy'n eistedd ar yr orsedd, yr hwn sy'n byw byth bythoedd,
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A phan fydd i'r creaduriaid byw roddi gogoniant ac anrhydedd a diolch i'r hwn sydd yn eistedd ar yr Orsedd, i'r hwn sydd yn byw yn oes oesoedd,