Revelation 5:10 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yn gwneythost yn Vrenhinoeð ac yn Effeiried yn Dyw ni, a ni, a thyrnaswn ar y ddayar.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
a gwnaethost hwynt i’n Duw yn deyrnas ac yn offeiriaid; a theyrnasant ar y ddaear.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a gwnaethost hwy i’n Duw ni yn frenhiniaeth ac offeiriaid, a theyrnasant ar y ddaear.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac a'n gwnaethost ni i'n Duw ni, yn frenhinoedd, ac yn offeiriaid: ac ni a deyrnaswn ar y ddaear.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Rwyt wedi teyrnasu drostyn nhw a'u gwneud yn offeiriaid i wasanaethu ein Duw. Byddan nhw'n teyrnasu ar y ddaear.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
a gwnaethost hwy yn urdd frenhinol ac yn offeiriaid i'n Duw ni; ac fe deyrnasant hwy ar y ddaear."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac a'u gwnaethost hwy i'n Duw ni yn frenhiniaeth ac yn offeiriaid; Ac y maent yn teyrnasu ar y ddaear.